greenwoodside: (Default)
2022-05-07 08:24 pm
Entry tags:

Tumblr

Below a whinge in Welsh about Tumblr and it's shortcomings in comparison to LiveJournal. I'm going to fetch my pipe and slippers now...

Creuais i gyfrif Tumblr llynedd er mwyn gadael sylwadau ar gelf ffan neis. Gan mod i’n ffan y gêm Neverwinter Nights 2 a chafodd ei lansio yn 2006, gall lluniau ardderchog amdano suddo yn gyflym heb dderbyn llawer o ddiddordeb. Felly, pan o’n i’n gweld rhywbeth at fy nant, byddai wedi teimlo yn angharedig i fethu dangos fy ngwerthfawrogiad.

Wel, mae Tumblr yn iawn, ond mae’n teimlo mor fas mewn cymhariaeth â chyfryngau ffan Y Good Old Days. LiveJournal. Fforymau. (Ro’n i ar GameJag a’r SugarQuill).

Ro’n i’n cofio y sgyrsiau mawr (a weithiau ffyrnig) ar LiveJournal, a’r meta a phopeth. Ar Tumblr, gallwch ‘hoffi’ neu ‘ailflogio’. Mae ‘na opsiwn i adael sylw, ond dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio’n aml. Yn amlwg, mae pobl yn mwynhau’r system hwnnw, neu byddai’r lle yn wag. Pam? Mae'n ddiheintiedig. Mae'n ddiflas.

Dyw’r gymhariaeth ddim yn hollol deg. Yn fy arddegau, ro’n i’n dilyn Harry Potter fel cymaint o bobl ifainc eraill – ac wrth gwrs roedd ffandom Harry Potter yn enfawr. Jörmungadr oedd e, y Sarff Midgard. Cynhyrchodd miloedd o ysgrifenwyr gynnwys newydd bob dydd. Dw i ddim yn gwybod beth yw’r ffandom mwyaf heddiw, ond dw i’n gwybod nad ydw i ynddo. Falle rhywle bydd y dadlau a meta yn digwydd o hyd?

Ac mae'n hawdd i anghofio bod problemau gyda ymddygiadau y defnyddwyr LiveJournal. Doedd y hierarchaeth ddim mor ddrwg - roedd yn sicr yn bodoli, ond roedd yn hawdd i anwybyddu hefyd. Ymddangosai ffraeon y BNFs fel atseiniau y brwydrau Cewri Storm yn mynyddoedd uchel a phell i ffwrdd ohonaf. Sut bynnag, roedd 'na greulondeb - pobl poblogaidd gyda ffrindiau ar-lein yn pigo ar y rheiny gyda llai. Dw i ddim wedi gweld llawer o 'sporking' yn y ffandomau modern. Dw i ddim yn ei golli.