greenwoodside: (Default)
Dw i'n ysgrifennu'n rhy hwyr eto. Ah, wel. Y bore 'ma es i i'r archfarchnad a phrynais addurniadau (plastig,defnyddiol am dair wythnos ar y gorau) i'r gwaith. Do'n i ddim eisiau eu prynu. Serchy hynny, talais i dipyn bach o arian, gosodais i'r pethau yn fy mag, a gadawais. Ro'n i'n teimlo'n falch ohona i am fy nghyfraniad ardderchog i'r sefydliad. "Wela! Dw i wedi gwneud yn fwy na'r anghenraid. Gweithiwr gwerthfawr ydw i!"

Roedd cywilydd arna i hefyd. Fyddai y stwff rhad o'r archfarchnad ddim gwella'r arddangosfa. Mae'r rhan mwyaf o arddangosfeydd ym Mhrydain yn edrych yn wael achos bod yr hinsawdd ddim yn gywir - yn wahanol i'r gogledd-ddwyrain Unol Daleithiau a Ewrop Canolog, mae'r gaeaf yn Lloegr a Chymru yn bennaf yn adfwyn. Yn ogystal â hyn, dyw y Nadolig ddim yma. Ac yn ogystal â [i]hyn[/i], does dim awyrgylch arbennig. Mae'r haul yn disglair tu allan, ac mae'r stafelloedd yn llawn o oleaudau trydanol melyn. Ro'n i'n mynd â'r addurniadau'n ôl fel tystiolaeth fy mod i'n ofalu am fy swydd. Ydy miloedd o bobl eraill yn gwneud yr un peth, tybed? Neu rywbeth yn debyg?

Rhaid i fi feddwl yn fwy y flwyddyn nesa am sut i wneud addurniadau yn llai wastraffgar.

Nos Sul

Dec. 1st, 2019 07:16 pm
greenwoodside: (Default)
Ro'n i i fwrdd nos Wener a dydd Sadwrn, felly ches i ddim cyfle i ddiweddaru fy siwrnal.

Mae'r penwythnos ar ôl diwrnod cyflog wastad yn dda. Prynais i ail fwydwr adar. Mae'r un cyntaf yn addas i hadau blodyn yr haul. Mae hyn wedi ei ddylunio i gynnwys cnau mwnci. Gobeithio bydd yr adar lleol yn eu mwynhau.

Nos Sadwrn bwriadais i wneud llawer o pethau pwysig. Y bore ddydd Sul, a ro'n i'n cysgu'n hwyr. Doedd y boeler ddim yn gweithio - dim pwysedd dŵr. Oedais i, ond o'r diwedd galwais i fy landlord - daeth e a datrysodd y broblem. (Ar ôl ei alw, ces i drideg munud i tacluso'r tŷ, a rhoi'r dillad oedd sychu ar y radiadur yn ôl yn y cwpbwrdd). Felly, heblaw y bwydwr adar newydd, dw i ddim wedi gwneud llawer.

Dw i wedi prynu goleaudau a siocled am y arddangosiad yn y gwaith. Mae'n ddoniol - er fy mod i chwennych y Nadolig John Masefield, dw i'n cael (a chyrfrannu at) y Nadolig plastig Hollywood. Dw i angen atgoffa fy hun bod y Nadolig yn cynhesach a hŷn yn ddangos yn fy mywyd yma ac acw. Yn y cyngerdd yn Otley pedair blynedd yn ôl, er engraifft. Dylwn i fynd cerdded yn y bryniau i chwilio am gelyn eleni.

Heno dw i wedi gweld rhaglen ddogfen am ddiwylliant Japaneaidd yn cysylltiad â natur ac y cartref. Ers blynyddoedd dw i'n edmygu estheteg Japaneaidd - edmygu o safle anwybodaeth, beth bynnag. Dw i'n edmygu heb ddeall. Yn y gwanwyn neu'r haf eleni, darllenais i gerdd gan Mizuta Masahide:

Nawr mae fy ysgubor wedi ei llosgi
Does dim byd i guddio
Golygfa'r lleuad.

Ro'n i'n synnu i ddarllen bod rywun arlein yn teimlo bod y gerdd yn rhodresgar. Pan dw i'n clywed y gerdd, mae 'na chwerthin ac herfeiddiad yn y llinellau. Mae hi, er yn fyr, yn difrifol ac yn sardonig ar yr un pryd.

Profile

greenwoodside: (Default)
greenwoodside

March 2025

S M T W T F S
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     

Syndicate

RSS Atom

Most Popular Tags

Page Summary

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated Apr. 23rd, 2025 12:54 pm
Powered by Dreamwidth Studios