Diwrnod wedi cwblhau
Nov. 26th, 2019 05:37 pmBasai mis Tachwedd ddim mor ofnadwy taswn i'n cael yn fwy o gyfleoedd i fynd tu allan am sbel, edrych i fyny ar yr awyr ac archwilio rhai o lonydd newydd. I gymharu â phobl eraill, dw i'n lwcus. Mae swydd 'da fi, swydd parhaol llawn-amser. Nid yw'r swydd yn defnyddio fy egni i gyd. Heno dw i'n paratoi cinio - cawl nwdl mewn modd ffug-Japaneaidd.
Y cynhwysion
nwdls wedi eu sychu
pecyn o lysiau yn addas i dro-ffrio - egin ffa mung, brocoli, moron wedi eu sleisio
saws soy (brand da heb siwgr a lliwiad caramel).
finegr reis
sos tsili
garlleg
olew sesame
hadau sesame
sifys
tofu
Mae'r pryd yn syml, ond yn neis a llawn o gynnes.
Dros y wlad ar hyn o bryd, mae llawer o bobl nad ydynt yn gallu treulio amser coginio am resymau amrywiol. Heddiw a ddoe, ro'n i'n darllen cyfrif Twitter Mary Beard, sy'n dweud ei bod hi'n gweithio cant awr yr wythnos. Dw i'n ei chredu hi.
Yn ystod fy ngyrfa cynharach (dim "gyrfa" yn wir, ond cyfres o swyddi byr anhapus) do'n i ddim yn gweithio cant awr yr wythnos. Fodd bynnag, teimlais i byth yn gallu anghofio'r gwaith. Doedd dim dianc yn fy meddwl. Ches i ddim talent naturiol am ymdrin â phobl, a gwastraffais i oriau yn darllen arlein mewn ymgais i ddarganfod yr ateb.